Working with Us

Current Vacancies

Tîm Grantiau

Swyddog Cymorth Grantiau (Cymraeg Hanfodol)

Cymru / Hybrid

Job Ref
Sept2026_GSOwec
Location
Cymru / Hybrid

Swyddog Cymorth Grantiau (x2)

Rydym yn chwilio am ddau Swyddog Cymorth Grantiau trefnus a hyblyg i ymuno â’n grwp Buddsoddi a helpu i ddarparu gwasanaeth grantiau rhagorol, teg a thryloyw. Bydd gennych brofiad o ddefnyddio systemau digidol a phrosesau gweinyddol, rheoli rhaglenni, prosiectau neu wasanaethau a chynnig cymorth clir, defnyddiol. Byddwch hefyd yn hyderus o ran gweithio gyda gwybodaeth ariannol, cynnal cofnodion cywir, cwrdd â dyddiadau cau a chyfrannu’n effeithiol fel rhan o dîm. Ar gyfer y swydd hon, mae sgiliau iaith Gymraeg ar lefel ganolradd neu uwch yn hanfodol; ar gyfer y llall, maent yn ddymunol.

Pam gweithio yn CGGC
Mae ein buddion staff yn cynnwys 25 diwrnod o wyliau â thâl ynghyd ag wyth gwyl banc a phum diwrnod disgresiwn, sy’n rhoi’r amser a’r cyfle i chi fagu nerth newydd. Cynllun Pensiwn Personol, Rhaglen Cymorth i Weithwyr, Cynllun Tâl Salwch uwch, gweithio hyblyg a chynllun arian gofal iechyd.

Rydym yn fudiad sy'n croesawu amrywiaeth. Mae gennym bolisïau rhagorol er mwyn cael cydbwysedd rhwng bywyd a gwaith, caiff gweithio hyblyg ei hybu, a’n diwylliant yw meithrin staff drwy arweinyddiaeth effeithiol a gwaith tîm rhagorol.

Mae CGGC yn buddsoddi yn ei gyflogeion a'u datblygiad. Yn ogystal â bod yn Gyflogwr Cyflog Byw sy’n ymrwymedig i dalu'r cyflog byw gwirioneddol i staff, mae CGGC wedi derbyn achrediad Buddsoddwyr mewn Pobl. Rydym yn falch o ddweud ein bod wedi ein hardystio gan Great Place to Work (gwefan Saesneg yn unig), yr awdurdod byd-eang ar ddiwylliant y gweithle, gyda 90% o’n staff yn dweud bod CGGC yn lle gwych i weithio. Nid targed na dyhead mo hwn; dyma beth ddywedodd ein pobl.

O 7 Medi 2026, byddwn yn treialu wythnos waith pedwar diwrnod am gyfnod o 12 mis. Yn ystod y cyfnod hwn, ein patrwm gwaith fydd dydd Llun i ddydd Iau. Bydd rhagor o fanylion am y treial yn cael eu darparu yn ystod y broses recriwtio.

Amser llawn: 35 awr yr wythnos, hyblyg
Cyflog: CGGC Gradd C £27,914 yn codi i £29,043 y flwyddyn ar ôl cwblhau cyfnod prawf yn llwyddiannus.
Mae CGGC yn cyfrannu 9% o’ch cyflog blynyddol i’w gynllun pensiwn cymeradwy.

Lleoliad: Yn CGGC, rydym yn croesawu gweithio hybrid a hyblyg. Gyda staff yn gweithio’n hyblyg ledled Cymru, bydd gennych yr opsiwn i weithio o bell (gan gynnwys gartref) neu yn ein swyddfeydd yn Aberystwyth a Chaerdydd, ac mewn mannau cymunedol bach ledled Gogledd Cymru. Bydd angen bod yn ein swyddfeydd o bryd i’w gilydd ar gyfer digwyddiadau staff penodol ac ymrwymiadau gwaith.

Ynglyn â’r rôl

Byddwch chi’n gweithio fel Swyddog Cymorth Grantiau yn cefnogi’r gwaith o gyflawni rhaglenni grant CGGC ac yn helpu mudiadau gwirfoddol ledled Cymru i gael effaith bositif yn eu cymunedau. Byddwch yn asesu ceisiadau grant yn erbyn meini prawf cytunedig, yn cynnig cymorth rheng flaen i ymgeiswyr trwy e-bost, Teams a ffôn ac yn monitro’r mudiadau a gyllidwyd er mwyn helpu i sicrhau bod amodau’r grant a’r gofynion adrodd yn cael eu bodloni. Byddwch hefyd yn cynnal cofnodion cywir, cefnogi paneli asesu, helpu i baratoi adroddiadau a rheoli gwybodaeth ac yn cyfrannu at gyfathrebiadau dwyieithog sy’n hyrwyddo’r cronfeydd. Mae’r rôl yn gofyn am ymagwedd drefnus sy’n canolbwyntio ar gwsmeriaid, crebwyll cadarn a’r hyblygrwydd i ymateb i flaenoriaethau newidiol.

Darllenwch y disgrifiad swydd llawn.

Dyddiad cau: 20 Hydref 2026
Dyddiad cyfweliad: 3/4 Tachwedd 2026
Croesawir ceisiadau Cymraeg ac ni fyddant yn cael eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau Saesneg.

Function
Tîm Grantiau
Status
Amser llawn
Type
Parhaol
Hours
35 awr yr wythnos; hyblyg (30 awr yr wythnos yn ystod y prawf wythnos 4 diwrnod)

Swyddog Cymorth Grantiau

Cymru / Hybrid

Job Ref
Sept2026_GSOc
Location
Cymru / Hybrid

Swyddog Cymorth Grantiau (x2)

Rydym yn chwilio am ddau Swyddog Cymorth Grantiau trefnus a hyblyg i ymuno â’n grwp Buddsoddi a helpu i ddarparu gwasanaeth grantiau rhagorol, teg a thryloyw. Bydd gennych brofiad o ddefnyddio systemau digidol a phrosesau gweinyddol, rheoli rhaglenni, prosiectau neu wasanaethau a chynnig cymorth clir, defnyddiol. Byddwch hefyd yn hyderus o ran gweithio gyda gwybodaeth ariannol, cynnal cofnodion cywir, cwrdd â dyddiadau cau a chyfrannu’n effeithiol fel rhan o dîm. Mae sgiliau yn y Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon.

Pam gweithio yn CGGC
Mae ein buddion staff yn cynnwys 25 diwrnod o wyliau â thâl ynghyd ag wyth gwyl banc a phum diwrnod disgresiwn, sy’n rhoi’r amser a’r cyfle i chi fagu nerth newydd. Cynllun Pensiwn Personol, Rhaglen Cymorth i Weithwyr, Cynllun Tâl Salwch uwch, gweithio hyblyg a chynllun arian gofal iechyd.

Rydym yn fudiad sy'n croesawu amrywiaeth. Mae gennym bolisïau rhagorol er mwyn cael cydbwysedd rhwng bywyd a gwaith, caiff gweithio hyblyg ei hybu, a’n diwylliant yw meithrin staff drwy arweinyddiaeth effeithiol a gwaith tîm rhagorol.

Mae CGGC yn buddsoddi yn ei gyflogeion a'u datblygiad. Yn ogystal â bod yn Gyflogwr Cyflog Byw sy’n ymrwymedig i dalu'r cyflog byw gwirioneddol i staff, mae CGGC wedi derbyn achrediad Buddsoddwyr mewn Pobl. Rydym yn falch o ddweud ein bod wedi ein hardystio gan Great Place to Work (gwefan Saesneg yn unig), yr awdurdod byd-eang ar ddiwylliant y gweithle, gyda 90% o’n staff yn dweud bod CGGC yn lle gwych i weithio. Nid targed na dyhead mo hwn; dyma beth ddywedodd ein pobl.

O 7 Medi 2026, byddwn yn treialu wythnos waith pedwar diwrnod am gyfnod o 12 mis. Yn ystod y cyfnod hwn, ein patrwm gwaith fydd dydd Llun i ddydd Iau. Bydd rhagor o fanylion am y treial yn cael eu darparu yn ystod y broses recriwtio.

Amser llawn: 35 awr yr wythnos, hyblyg
Cyflog: CGGC Gradd C £27,914 yn codi i £29,043 y flwyddyn ar ôl cwblhau cyfnod prawf yn llwyddiannus.
Mae CGGC yn cyfrannu 9% o’ch cyflog blynyddol i’w gynllun pensiwn cymeradwy.

Lleoliad: Yn CGGC, rydym yn croesawu gweithio hybrid a hyblyg. Gyda staff yn gweithio’n hyblyg ledled Cymru, bydd gennych yr opsiwn i weithio o bell (gan gynnwys gartref) neu yn ein swyddfeydd yn Aberystwyth a Chaerdydd, ac mewn mannau cymunedol bach ledled Gogledd Cymru. Bydd angen bod yn ein swyddfeydd o bryd i’w gilydd ar gyfer digwyddiadau staff penodol ac ymrwymiadau gwaith.

Ynglyn â’r rôl

Byddwch chi’n gweithio fel Swyddog Cymorth Grantiau yn cefnogi’r gwaith o gyflawni rhaglenni grant CGGC ac yn helpu mudiadau gwirfoddol ledled Cymru i gael effaith bositif yn eu cymunedau. Byddwch yn asesu ceisiadau grant yn erbyn meini prawf cytunedig, yn cynnig cymorth rheng flaen i ymgeiswyr trwy e-bost, Teams a ffôn ac yn monitro’r mudiadau a gyllidwyd er mwyn helpu i sicrhau bod amodau’r grant a’r gofynion adrodd yn cael eu bodloni. Byddwch hefyd yn cynnal cofnodion cywir, cefnogi paneli asesu, helpu i baratoi adroddiadau a rheoli gwybodaeth ac yn cyfrannu at gyfathrebiadau dwyieithog sy’n hyrwyddo’r cronfeydd. Mae’r rôl yn gofyn am ymagwedd drefnus sy’n canolbwyntio ar gwsmeriaid, crebwyll cadarn a’r hyblygrwydd i ymateb i flaenoriaethau newidiol.

Darllenwch y disgrifiad swydd llawn.

Dyddiad cau: 20 Hydref 2026
Dyddiad cyfweliad: 3/4 Tachwedd 2026
Croesawir ceisiadau Cymraeg ac ni fyddant yn cael eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau Saesneg.

Function
Tîm Grantiau
Status
Amser llawn
Type
Parhaol
Hours
35 awr yr wythnos; hyblyg (30 awr yr wythnos yn ystod y prawf wythnos 4 diwrnod)

Job Alerts

Can’t see the role you want? Register your details with us to be notified when we’re hiring!